PET(4)-01-12
p16g
Papur y
Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau
Y Pwyllgor
Deisebau
Dyddiad: 10
Ionawr 2012
Amser: 10:30
– 11:00
Teitl: Papur Tystiolaeth i’r Pwyllgor Deisebau ar
Ddeisebau P-03-144
Gofod
a Rennir, P-03-162 Llansbyddyd a P-03-261 Atebion
Lleol i Dagfeydd Traffig yn y
Drenewydd
Cyflwyniad
Mae’r papur
hwn yn rhoi gwybodaeth a diweddariad i’r Pwyllgor ar dair
deiseb: P-03-144 ar Ofod a Rennir, P-03-162 ar Ddiogelwch ar y
Ffyrdd yn Llansbyddyd a P-03-261 ar Atebion Lleol i Dagfeydd
Traffig yn y Drenewydd.
P-03-144
CŴN TYWYS Y DEILLION – GOFOD A RENNIR
- Ym Mehefin
2008 cyflwynodd Cymdeithas Cŵn Tywys y Deillion ddeiseb yn
gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru osod cyfrifoldeb penodol ar
awdurdodau lleol i fod yn ymwybodol o’u dyletswyddau o dan y
Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd a’r Ddyletswydd
Cydraddoldeb i Bobl Anabl, ac i gydymffurfio â hwy drwy
beidio â chreu canol trefi, strydoedd mawr a strydoedd
preswyl ag arwynebau a rennir sy’n gwahaniaethu yn erbyn pobl
ddall, pobl rannol ddall a phobl anabl eraill, gan eu
hallgáu i bob pwrpas o amgylchedd y stryd.
- Cadwyd y ddeiseb
ar agor gan y Pwyllgor nes bod yr Adran Drafnidiaeth yn cyhoeddi
Nodyn Trafnidiaeth Leol 1/11 – Gofod a Rennir. Fe’i
cyhoeddwyd ym mis Hydref; mae’n canolbwyntio ar rannu gofod
mewn strydoedd mawr ac yn rhoi pwyslais penodol ar ymgysylltu
â rhanddeiliaid a dylunio cynhwysol.
- Dogfen ganllawiau
yw’r Nodyn Trafnidiaeth Leol hwn, ac fe’i paratowyd ar
gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr ac ymarferwyr eraill sy’n
ymwneud â chynllunio, dylunio a darparu strydoedd lle
mae’r gofod yn cael ei rannu. Wrth ei ddatblygu, manteisiwyd
ar brosiect ymchwil dwy flynedd a oedd yn cynnwys ystod eang o
gyfranogion, gan gynnwys Cymdeithas Cŵn Tywys y
Deillion.
- Yn 2009,
cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth adroddiad arfarnu ar ofod a
rennir. Daw i’r casgliad nad oes gan gynlluniau rhannu gofod
yn y DU, gan gynnwys y rhai ag arwynebau a rennir, fwy o anafusion
na threfniadau confensiynol, ac na chaiff grwpiau penodol, gan
gynnwys pobl anabl, eu hanafu’n amlach ar ôl eu
cyflwyno.
- Cyflawnwyd mwy o
ymchwil i adeiladu ar yr adroddiad arfarnu ac i ddatblygu’r
canllawiau. Roedd hyn yn cynnwys nifer o astudiaethau achos o
strydoedd lle mae’r gofod eisoes yn cael ei
rannu.
- Nid yw Llywodraeth
Cymru wedi mabwysiadu’r canllawiau’n ffurfiol am fod
rhai gwahaniaethau pwysig yn y darpariaethau cydraddoldeb statudol
i Gymru y mae angen eu cadarnhau cyn y gallwn gymeradwyo’r
nodyn cyngor hwn. Mae gwaith yn cael ei gyflawni ar
hyn.
- Nes bod mwy o
dystiolaeth ar gael o effeithiau’r cynlluniau rhannu gofod
sydd eisoes ar waith ar draws y DU, ni fydd Llywodraeth
Cymru’n datblygu cynlluniau o’r fath ar ffyrdd yn ein
hawdurdodaeth. Byddem yn disgwyl i awdurdodau lleol ystyried
holl anghenion y rhanddeiliaid, yn enwedig y rhai agored i niwed
sy’n defnyddio’r ffyrdd, wrth roi’r cynlluniau
hyn ar waith ar eu ffyrdd eu hunain.
P-03-162
–Trigolion Llansbyddyd – Diogelwch ar y Ffyrdd yn
Llansbyddyd
- Yn Nhachwedd 2008
cyflwynodd Trigolion Llansbyddyd ddeiseb yn gofyn i Lywodraeth
Cynulliad Cymru wella diogelwch ar y ffyrdd ym mhentref
Llansbyddyd, ger Aberhonddu ym Mhowys, drwy gyflwyno mesurau
gostegu traffig fel gostwng y terfyn cyflymder presennol,
gwella’r goleuadau ar ochr y ffordd a gwella’r
arwyddion ar yr A40.
- Ar ôl i’r gymuned fynegi pryder, cynhaliodd
Llywodraeth Cymru Ymchwiliad Rhagarweiniol i Gefnffordd yr A40
(Rhaglan–Llanymddyfri) yn Llansbyddyd. Aethpwyd ati i astudio
amgylchedd y gefnffordd drwy’r pentref i weld a oedd angen
mesurau, yn unol â chanllawiau’r awdurdod cefnffyrdd, i
wella diogelwch. Cyflwynwyd copi o’r adroddiad
i’r Pwyllgor Deisebau ym mis Hydref 2011.
- Argymhellwyd yn yr
adroddiad y dylai’r gefnffordd gael arwyddion a llinellau mwy
gweladwy wrth gyffyrdd; arwyddion â chefnau melyn a phlatiau
“arafwch nawr” yn rhybuddio gyrwyr bod cyffordd
o’u blaen; ac ARAF/SLOW ar ddarn coch ar y ffordd, 100 metr
o’r gyffordd â’r ffordd ymyl.
- Cyflawnwyd y
gwaith hwn yn 2011. Bydd yr amodau ar y ffordd yn cael eu monitro i
asesu canlyniad y gwelliannau hyn ac i weld a oes angen mwy o
fesurau.
- Ystyriwyd yr angen
am well goleuadau yn rhan o’r astudiaeth hon. Nid oedd y data
damweiniau ar gyfer Llansbyddyd yn dangos bod unrhyw broblemau
penodol o ran gwrthdrawiadau yn y nos neu’r goleuadau, felly
nid argymhellwyd newidiadau i’r goleuadau.
P-03-261
Atebion Lleol i Dagfeydd Traffig yn y Drenewydd
- Yn Ionawr 2010,
cyflwynodd Garry Saady, sy’n byw yn y Drenewydd, ddeiseb o 37
o lofnodion yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog
Llywodraeth Cymru i ohirio penderfyniad ynglŷn â’r
ffordd osgoi arfaethedig yn y Drenewydd nes ei bod wedi datblygu a
threialu cyfres o fesurau cynaliadwy yn y dref ei hun i fynd
i’r afael â thagfeydd traffig.
- Ym Mawrth 2010,
ystyriodd y Pwyllgor Deisebau ddiweddariad o’r ddeiseb hon am
fod y deisebwr wedi cyflwyno gwybodaeth ychwanegol. Ym Mai 2010,
cyflwynodd y Gweinidog ar y pryd ymateb manwl i’r Pwyllgor
Deisebau yn ymdrin â’r pwyntiau penodol a godwyd gan y
deisebwr.
- Cyhoeddwyd y
llwybr a ffefrir ar 13 Hydref 2010.
- Os cwblheir y
gweithdrefnau caniatâd statudol yn llwyddiannus, ac os bydd
cyllid ar gael, dylai’r gwaith adeiladu gychwyn tua diwedd
2014/dechrau 2015.
P-04-319
Traffig yn y Drenewydd
1. Ym mis
Mehefin 2011, cyflwynodd Paul Pavia ddeiseb gyda 10 o lofnodion yn
galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i
wneud y canlynol:
a)
Gosod cylchfan ger y gyffordd
â heol Ceri ac, os bydd llif y traffig yn gwella, osod
cylchfan barhaol yno.
b)
Cyhoeddi dyddiad cychwyn cynnar
i adeiladu ffordd osgoi’r Drenewydd ac i roi blaenoriaeth i
gwblhau’r gwaith hwnnw cyn gynted ag y bo modd.
2. Ym mis Mehefin,
ysgrifennodd y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Llywodraeth Leol a
Chymunedau i ofyn am sylwadau. Ymatebodd y Gweinidog ym mis
Gorffennaf 2011 trwy anfon llythyr yn amlinellu’r pryderon
ynghylch gosod cylchfan ger y gyffordd â heol
Ceri.
3. Os
cwblheir y gweithdrefnau caniatâd statudol yn llwyddiannus,
ac os bydd cyllid ar gael, dylai’r gwaith o adeiladu’r
ffordd osgoi gychwyn tua diwedd 2014/dechrau
2015.